CYPE(5)-20-18 - Papur 1

 

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Oddi wrth:         Llywodraeth Cymru

Dyddiad:   28 Mehefin 2018

Amser:      9:00 – 11:00

Teitl:                Sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

 

Cyflwyniad

 

1.    Diben y papur hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y canlynol:

              i.        Lleihau maint dosbarthiadau babanod;

            ii.        Adolygu’r polisi presennol yn ymwneud â lleoedd gwag, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, er mwyn ystyried tueddiadau twf yn y dyfodol;

           iii.        Blaenoriaethu mynediad i fand eang cyflym iawn;

           iv.        Y sefyllfa ddiweddaraf yn ymwneud â gwaith athrawon cyflenwi;

            v.        Datblygu’r cwricwlwm newydd;

           vi.        Unrhyw oblygiadau ar gyfer y MEG Addysg yn deillio o Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19.

 


Lleihau maint dosbarthiadau babanod

 

2.    Cyflwynodd pob un o’r  22 awdurdod lleol achos busnes ar gyfer yr elfen refeniw £16 miliwn o’r cyllid £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod. Aseswyd yr achosion busnes er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu amcan sylfaenol lleihau maint dosbarthiadau babanod mewn ysgolion sy’n bodloni’r meini prawf targed, ac mae pob un o’r cynigion wedi’u cytuno bellach. O ganlyniad, bydd ysgolion ledled Cymru yn elwa ar 80 o athrawon newydd yn y lle cyntaf. Caiff yr athrawon newydd eu penodi mewn ysgolion sydd â’r dosbarthiadau mwyaf (29 o blant neu fwy) ac sydd â lefelau uchel o amddifadedd, anghenion addysgol arbennig a/neu lle mae angen gwella addysgu a dysgu. Gofynnwyd i awdurdodau lleol nodi eu gwariant yn ystod cyfnod y grant. Bydd nifer yr athrawon ychwanegol yn cynyddu wrth i ragor o ysgolion gael eu targedu dros bedair blynedd y cyllid.   

3.    Yn ddiweddar fe ges i gyfle i ymweld ag Ysgol Gynradd Awel y Môr ym Mhort Talbot, sef ysgol a fydd yn cael athrawes ychwanegol yn y dosbarth derbyn fis Medi nesaf. Mae’r ysgol yn llawn haeddu derbyn y grant gan fod lefelau uchel o ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yno a/neu lefelau uchel o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig. Mae’r pennaeth wedi croesawu’r cyllid newydd a fydd yn galluogi athrawon i weithio’n agosach â phlant unigol a gwella safonau disgyblion.

4.    Hyd yn hyn, mae 17 awdurdod lleol wedi gwneud cais am elfen gyfalaf £20 miliwn y cyllid er mwyn darparu rhagor o le yn yr ystafell ddosbarth os yw lleihau maint dosbarthiadau babanod yn dibynnu ar hynny. O ganlyniad, gall lle ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth gael ei greu mewn o leiaf 37 o ysgolion ledled Cymru er mwyn lleihau maint dosbarthiadau babanod. Mae elfen gyfalaf y grant wedi cyrraedd cam olaf y broses graffu a chymeradwyo.



Adolygir y polisi presennol yn ymwneud â lleoedd gwag, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, er mwyn ystyried tueddiadau twf yn well yn y dyfodol.

 

5.    Bydd y Pwyllgor yn ymwybodol ein bod wedi ymgynghori ar ddiwygio’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Roedd hyn yn cynnwys cryfhau’r Cod mewn perthynas â rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau.

 

6.    Er mwyn gweithredu rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau, mae angen diffinio ysgol wledig at y diben penodol hwnnw. Felly, gofynnodd yr ymgynghoriad am safbwyntiau ar ysgolion y dylid eu hystyried yn ysgolion gwledig, gan holi ymatebwyr, ar sail gwybodaeth leol, am unrhyw ysgolion eraill y dylid eu cynnwys.

 

7.    Mae’n dda gennyf ddweud bod yna gefnogaeth gyffredinol ar gyfer cyfeiriad cyffredinol y cynigion. Fodd bynnag, dywedodd nifer o ymatebwyr fod angen ymestyn y diffiniad i gynnwys rhagor o ysgolion. Rwy’n tueddu i gytuno â’r safbwynt hwn ac ymestyn y dynodiad a’r rhestr o ysgolion gwledig.

 

8.    Cyn gwneud hynny, rwy’n gofyn am safbwyntiau awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol ynglŷn ag ymarferoldeb cynnwys yr ysgolion ychwanegol hyn. Er fy mod yn credu bod angen yr ymgysylltiad ychwanegol hwn er mwyn fy nghynorthwyo i wneud penderfyniad terfynol, mae’n golygu y bydd y broses o lunio a chyflwyno’r Cod yn cymryd mwy o amser. 

 

9.    Rwy’n gobeithio cyhoeddi crynodeb llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyn toriad yr haf. Caiff y Cod ei ddiweddaru wedyn i adlewyrchu’r ymatebion, cyn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol am 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw gyfnod lle mae’r Cynulliad wedi torri am fwy na 4 diwrnod). Ar y sail hon, rwy’n disgwyl i’r Cod diwygiedig gael ei gyhoeddi yn yr hydref, gan ddod i rym cyn diwedd y flwyddyn.

 

Blaenoriaethu mynediad i fand eang cyflym iawn

 

10. Mae Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol (LiDW) yn rhaglen uchelgeisiol i wella cysylltedd y rhyngrwyd mewn ysgolion a chyflwyno amrywiaeth o raglenni ac adnoddau digidol a ariennir yn ganolog trwy blatfform Hwb i holl ysgolion Cymru. Er mwyn helpu i gyflawni’r ymrwymiad hwn a gweithredu’r camau nesaf a nodwyd yn y Gwerthusiad o’r Rhaglen LiDW, cyhoeddais y bydd cyllideb gwerth £5 miliwn ar gael yn ystod blynyddoedd ariannol 2017-18 a 2018-19 i wneud y gwaith hwn.

 

11.  Rydym wedi cychwyn Buddsoddiad LiDW yn y rhaglen waith Band eang, trwy Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA), er mwyn sicrhau bod gan ysgolion fynediad i wasanaethau band eang cyflym iawn, sy’n gadarn ac yn gymesur. Ar ôl ymgysylltu â chydweithwyr mewn awdurdodau lleol a Chonsortia Addysg Rhanbarthol, bydd 340 o ysgolion yn elwa ar y buddsoddiad ychwanegol. 

 

12. Mae rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol yn Buddsoddi mewn Band Eang yn datblygu’n dda, gan ragori ar yr amserlen. Hyd yma, mae 240 o gylchoedd wedi’u cwblhau, ac mae ysgolion wedi manteisio ar gysylltiad gwell. Hefyd, mae cysylltiad ffeibr wedi’i osod mewn 23 ysgol arall, a disgwylir y bydd gwaith yn cael ei wneud i gwblhau’r archebion hyn dros yr wythnosau nesaf.

 

13. Mae 81 o’r 340 o ysgolion nad ydynt yn derbyn gwasanaethau trwy’r rhwydwaith PSBA ar hyn o bryd wedi’u lleoli ym Mro Morgannwg neu Ferthyr Tudful. Fel rhan o’r rhaglen, sicrhaodd Merthyr Tudful a Bro Morgannwg gymeradwyaeth eu cabinetau i ymuno â’r rhwydwaith PSBA, ac maent wedi cyflwyno archebion i ddatblygu eu gwasanaethau. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, bydd y rhan fwyaf o ysgolion ledled Cymru yn cael eu cysylltu â’r rhwydwaith PSBA (mae nifer fach o ysgolion wedi penderfynu dewis cynigion band eang masnachol).

 

14. Mae un ar ddeg o ysgolion ledled Cymru yn anodd eu cyrraedd o hyd oherwydd diffyg seilwaith telathrebu yn yr ardal leol i hwyluso gwasanaethau band eang digonol. Yn anffodus, ni wnaeth Rhaglen Cyflymu Cymru gyrraedd y lleoliadau hyn cyn dyddiad cau’r rhaglen ar 31 Rhagfyr 2017. O ganlyniad, mae sawl tîm ledled Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion BT i benderfynu pa ddewisiadau sydd ar gael i sicrhau bod yr ysgolion hyn yn derbyn gwasanaeth band eang priodol.  Mae naw o’r ysgolion anodd eu cyrraedd wedi archebu ffeibr, ac mae trafodaethau gyda BT yn parhau er mwyn ystyried dewisiadau ar gyfer y ddwy ysgol arall.

 

15. Mae cytundeb wedi’i sicrhau gyda’r tîm PSBA i ddileu cyfraddau wedi’u capio yn yr holl ysgolion eraill. Er bod gan y rhan fwyaf o ysgolion seilwaith band eang digonol, bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod ganddynt fynediad i gyflymder band eang sy’n bodloni/rhagor ar ddisgwyliadau. Mae’r dull gweithredu a’r amserlenni’n cael eu trafod ar hyn o bryd er mwyn rheoli unrhyw effaith ar y rhwydwaith PSBA.

 

16. Mae’r rhaglen LiDW wedi arwain at ddefnydd dynodedig o ffeibr mewn ysgolion, gan olygu bod y seilwaith hyd at ddrws blaen yr ysgol bellach yn ddigonol i hwyluso gwasanaeth cyflym iawn, a fydd yn helpu i gyrraedd targedau band eang ysgolion. Er bod y seilwaith i’r ysgolion yn bodoli, mae’r wybodaeth bresennol yn awgrymu nad oes gan tua 20% o ysgolion gyfarpar gofynnol, fel llwybrydd, i fanteisio ar y lled band mwyaf sydd ar gael trwy eu cysylltiad. Rydym yn ymchwilio i raglen waith i alluogi’r ysgolion hyn i fanteisio ar y lled band mwy sydd ar gael iddynt.

 

17. Dros y misoedd diwethaf, mae fy swyddogion wedi ymweld â nifer o ysgolion gan nodi pryderon yn ymwneud â seilwaith mewn ysgolion ynghyd â’r ffaith fod y cymorth sydd ar gael iddynt yn amrywio. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y rhwydweithiau ardal leol mewn ysgolion wedi’u ffurfweddu’n amhriodol, a/neu eu cynnal a’u cadw’n aneffeithiol i fodloni’r gofynion technoleg diweddaraf. O ganlyniad, mae ysgolion yn parhau i wynebu problemau wrth geisio cyrchu adnoddau a gwasanaethau dysgu digidol, er gwaetha’r ffaith fod ganddynt led band digonol, ac mewn rhai achosion, y dyfeisiau ystafell ddosbarth diweddaraf (h.y. gliniaduron a llechi).  

 

18. Er mwyn ystyried y problemau a helpu i gadarnhau’r dystiolaeth anecdotaidd, rydym yn cynnal asesiad o tua 200 o rwydweithiau ysgolion ledled Cymru, gan lunio adroddiad ‘cyflwr y genedl’ ar y sefyllfa bresennol. Mae’r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd ag awdurdodau lleol, gan mai nhw sy’n gyfrifol am reoli a chefnogi ysgolion. Dechreuodd y gwaith tua diwedd mis Ionawr 2018 a disgwylir iddo ddod i ben ym mis Gorffennaf 2018 cyn toriad yr haf.  

 

19. Ym mis Rhagfyr 2017 cyhoeddwyd Addysg Canllawiau Digidol ar gyfer ysgolion. Bydd y canllawiau hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth ysgolion o bwysigrwydd eu rhwydweithiau ardal leol, a’r hyn y mae angen iddynt ei ystyried cyn gwneud unrhyw fuddsoddiad ariannol mewn technoleg.

 

 

Gwaith athrawon cyflenwi

 

20. Mae’r Pwyllgor wedi cwblhau ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi, ac rwyf wedi cyflwyno diweddariadau rheolaidd. Fel y gwyddoch, cafwyd nifer o argymhellion ymarferol ar gyfer cefnogi a datblygu athrawon cyflenwi yn adroddiad Tasglu Gweinidogol y Model Cyflenwi Athrawon a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r sector i ystyried modelau amgen o drefnu a chefnogi gweithlu hyblyg. Bydd y pŵer i bennu cyflogau ac amodau gwaith athrawon yn cael ei drosglwyddo’n ffurfiol i Weinidogion Cymru ym mis Medi 2018, a gall system cyflogau athrawon ddod i rym yng Nghymru erbyn mis Medi 2019 fan gynharaf. Rydym wrthi’n trafod â’r sector ynglŷn â sut mae’r pwerau hyn yn gallu darparu cyfleoedd i bennu cyflogau athrawon mewn ffordd sy’n sylfaen i’n dyheadau ar gyfer y system addysg yn ehangach, er mwyn codi safonau a chefnogi a datblygu’r proffesiwn addysgu gan gynnwys y rhai sy’n gwneud gwaith cyflenwi dros dro.

 

21. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyflogi athrawon. O dan reoliadau rheoli ysgolion lleol, cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drefnu gweithlu effeithiol, gan gynnwys diwallu anghenion cyflenwi dros dro. Mae angen gwneud rhagor o waith gyda’r sector, gan gynnwys awdurdodau sy’n cyflogi athrawon, ysgolion a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, er mwyn datblygu fframwaith gwasanaeth wedi’i reoli diwygiedig ar gyfer gweithwyr dros dro, er mwyn datblygu dulliau newydd o helpu i roi trefniadau cyflenwi dros dro effeithiol ar waith. Mae £2.7 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer arbrawf a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2007 i gyflogi athrawon cyflenwi yn uniongyrchol. Fel rhan o’r arbrawf, bydd deunaw prosiect clwstwr mewn ysgolion yn cael eu datblygu mewn pymtheg awdurdod lleol gyda’r nod o dreialu model gweithio mwy cynaliadwy a chydweithredol sy’n cefnogi dysgu proffesiynol athrawon newydd gymhwyso ac sydd o fudd i ysgolion a dysgwyr. Amcan yr arbrawf yw recriwtio hyd at hanner cant o athrawon newydd gymhwyso i weithio mewn clystyrau sy’n cynnwys dros gant o ysgolion yng Nghymru. Bydd yr arbrawf yn cael ei werthuso i weld a yw’r dull gweithredu hwn yn cynnig model amgen hyfyw i gyflogwyr y gellid ei gyflwyno’n ehangach.

 

22. Un o amcanion galluogi Cenhadaeth ein Cenedl yw datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel. Rhan allweddol o hyn yw datblygu agwedd genedlaethol at ddysgu proffesiynol gydol gyrfa sy’n datblygu gallu ar ôl y cyfnod o Addysg Gychwynnol Athrawon ac sy’n deillio o ymchwil seiliedig ar dystiolaeth a chydweithio effeithiol. Rydym yn cydnabod bod dysgu proffesiynol yn hanfodol i wireddu bwriadau diwygio’r cwricwlwm. Pan fydd y cwricwlwm drafft ar gael ym mis Ebrill 2019, mae angen i ni neilltuo amser i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r heriau dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â rhoi’r cwricwlwm ar waith mewn ysgolion. Bydd dull gweithredu dysgu proffesiynol cenedlaethol cychwynnol ar gael yn 2018 a fydd yn pwysleisio’r hawl i ddysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r ymarferwyr yn y system. Bydd y dull cenedlaethol yn cael ei weithredu’n llawn o fis Ebrill 2020 ymlaen.

 

23. Hefyd, mae ymgynghoriad â rhanddeiliaid haen ganol ar waith ynglŷn â’r Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol er mwyn sicrhau bod y dull gweithredu’n cael ei lunio ar y cyd a’i roi ar waith yn unol ag ymrwymiad Cenhadaeth ein Cenedl. Bydd ein dull o fonitro’r broses o gyflwyno’r cynnig dysgu proffesiynol gan yr haen ganol yn cynnwys sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael mynediad cyfartal i ddarpariaeth benodol sy’n helpu ymarferwyr i ystyried goblygiadau’r cwricwlwm newydd ar gyfer eu rôl fel ‘dylunwyr y cwricwlwm’ yn y dyfodol.

 

24. Mae ysgolion ac asiantaethau yn gyfrifol am ddysgu proffesiynol parhaus athrawon cyflenwi. Er mwyn cynorthwyo datblygiad proffesiynol athrawon cyflenwi, mae trefniadau ar waith i gofrestru’r holl athrawon cyflenwi fel bod ganddynt fynediad personol i Hwb. Hyd yn hyn, mae dros ddau gant o athrawon wedi cofrestru. Hefyd, gellir defnyddio tudalennau rhwydweithio Hwb fel platfform i athrawon cyflenwi rannu adnoddau. Mae modd gwneud hyn, ochr yn ochr â dewisiadau Consortia rhanbarthol, i gefnogi dysgu a datblygu proffesiynol parhaus yn unol â blaenoriaethau addysg Cymru. Mae angen sicrhau bod cymorth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ar gael ar gyfer athrawon o bob math, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio’n hyblyg fel athrawon cyflenwi neu athrawon dros dro. Mae Pasbortau Dysgu Proffesiynol ar gael i athrawon cyflenwi cofrestredig o bob math.

 

Datblygu’r cwricwlwm newydd:

 

25. Yn ystod sesiwn y Pwyllgor yn trafod y cwricwlwm newydd ym mis Rhagfyr 2017, cyflwynwyd tystiolaeth bod y Rhwydwaith Ysgolion Arloesi, gyda chymorth y Grŵp Cwricwlwm ac Asesu, wedi cytuno ar y dull o drefnu gwybodaeth, profiadau a sgiliau yn y cwricwlwm. Mae’r dull “Beth sy’n Bwysig” yn nodi cwmpas a ffiniau pob Maes Dysgu a Phrofiad, ac mae Ysgolion Arloesi wedi datblygu datganiadau “Beth sy’n Bwysig” drafft gyda sail resymegol ategol ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad. 

 

26. Ers mis Ionawr, mae’r Rhwydwaith Ysgolion Arloesi wedi diwygio’r datganiadau “Beth sy’n Bwysig” ar sail sylwadau gan eu cydweithwyr a mewnbwn eang gan arbenigwyr. Hefyd, bu’n gweithio ar fframweithiau datblygu ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad.

 

27. Bydd y cwricwlwm newydd a’i drefniadau asesu – y Deilliannau Cyflawni – yn seiliedig ar gynnydd; felly mae’n bwysig sicrhau eu bod yn briodol. Felly, mae’r elfen hon yn cael ei rhoi ar waith mewn cydweithrediad â Camau, partneriaeth rhwng Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  

 

28. Rydym newydd gyrraedd y trydydd tro pan fydd y Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn adolygu datblygiad y gwaith hyd yn hyn ac yn darparu cymorth ar gyfer y gwaith sydd i ddod. Ar ddiwedd mis Ebrill/dechrau mis Mai, astudiwyd llwyddiant y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn erbyn y fframweithiau datblygu, y dull o nodi manylion ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, a strwythur y cwricwlwm sy’n datblygu. Cwblhawyd y gwaith hwn dros ddau ddiwrnod, ac roedd y broses yn un gadarnhaol. 

 

29. Yn unol â’r ymrwymiad i gyhoeddi diweddariadau ar gynnydd, cyhoeddwyd diweddariadau yn deillio o’r adolygiad diwethaf yn gynharach yn y mis.

 

30. Mae’r gwaith presennol dros dymor yr haf yn cynnwys:

 

§  Llunio Deilliannau Cyflawni drafft – mae arloeswyr cwricwlwm yn defnyddio’r fframwaith datblygu i’w llunio;

 

§  Cytuno ar fanylion y Meysydd Dysgu a Phrofiad – mae’r arloeswyr cwricwlwm yn diwygio’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad hanfodol sydd eu hangen i gyflawni’r datganiadau “Beth sy’n Bwysig” (a’r pedwar amcan). Hefyd, maent yn gweithio i sicrhau bod cysylltiadau a dibyniaethau rhwng pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cael eu nodi a’u trosglwyddo i’r cam datblygu nesaf;

 

§  Profi’r datganiadau “Beth sy’n Bwysig” a’r fframweithiau datblygu gyda’r arloeswyr dysgu digidol a phroffesiynol. Erbyn hyn, maent wrthi’n eu profi yn eu hysgolion a’u clystyrau a byddant yn cyflwyno adborth yn ystod cam nesaf y broses tua dechrau mis Gorffennaf.

 

31.  Yn ogystal â’r amrywiaeth eang o arbenigwyr sy’n cyfrannu at bob Maes Dysgu a Phrofiad bellach, caiff allbwn y gwaith ei brofi ymhellach gyda’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu dros gyfnod yr haf.

 

32. Er bod gwaith ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad wedi cyrraedd ei gyfnod mwyaf dwys, rydym yn hyderus o hyd ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd yr amserlenni a rannwyd yn yr hydref ac a drafodwyd yn fanwl ar 6 Rhagfyr 2017.    

 

Unrhyw oblygiadau ar gyfer y MEG Addysg yn deillio o Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19.

 

33. Rydych chi wedi gofyn am fanylion unrhyw oblygiadau ar gyfer y MEG Addysg yn deillio o’r Gyllideb Atodol Gyntaf. Oherwydd amseriad Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi ar 19 Mehefin,  ni allaf ddarparu gwybodaeth ar hyn o bryd.